An exciting opportunity has arisen to join SeneddCymru/Welsh Parliament and the Senedd Research team.
We are seeking to appoint someone who will take the lead on developing knowledge exchange and engagement with external researchers (this includes Higher Education Institutions and other research and stakeholder organisations and representative bodies within Wales, the rest of the UK and internationally). It is also to maximise engagement with the work of the Senedd’s in house research service (Senedd Research).
You will be responsible for increasing the diversity and inclusivity of research expertise available to the Senedd to support Members of the Senedd and committee scrutiny. In doing so, you will be promoting a wider awareness and understanding of the role of the Senedd and how external researchers and other stakeholders can engage with its work.
This is an excellent opportunity to work at the heart of Welsh democracy and to play a key role in developing and influencing the work of the new Senedd due to be elected in May 2021. At the same time, you’ll have the opportunity to develop yourself and your understanding of our political system in a supportive, creative and stimulating environment.
We are looking for someone who has excellent interpersonal, written and oral communication skills; working proactively and able to plan and organise your own work; a strong networker and communicator, able to liaise with internal and external colleagues to effectively build relationships and gain understanding of their needs. Ideally, you will have some knowledge of the UK and Welsh research landscape and some knowledge of the work of the Welsh Parliament.
If this is you, please get in touch.
This role will normally be based at Ty Hywel in Cardiff Bay, but in accordance with Regulations and current Welsh Government guidelines the role will initially be home based. You will be provided with the support and equipment you will need to be able to work from home.
__________________________________________________
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Senedd Cymru a thîm Ymchwil y Senedd.
Rydym am benodi rhywun a fydd yn arwain y gwaith o ddatblygu trefniadau cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu ag ymchwilwyr allanol (mae hyn yn cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill, a chyrff cynrychioliadol yng Nghymru a ledled y DU ac yn rhyngwladol). Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys sicrhau cymaint o ymgysylltiad â phosibl â gwaith gwasanaeth ymchwil mewnol y Senedd (Ymchwil y Senedd).
Byddwch yn gyfrifol am gynyddu amrywiaeth a chynwysoldeb yr arbenigedd ymchwil sydd ar gael i’r Senedd i gefnogi Aelodau’r Senedd a’r gwaith craffu ar bwyllgorau. Wrth wneud hynny, byddwch yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ehangach o rôl y Senedd a sut y gall ymchwilwyr allanol a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu â’i gwaith.
Dyma gyfle gwych i weithio wrth wraidd democratiaeth Cymru a chwarae rhan allweddol o ran datblygu a dylanwadu ar waith y Senedd newydd a fydd yn cael ei hethol ym mis Mai 2021. Ar yr un pryd, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich hun a’ch dealltwriaeth o’n system wleidyddol, a hynny mewn amgylchedd cefnogol, creadigol, ac ysgogol.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, sydd â’r gallu i weithio’n rhagweithiol a chynllunio a threfnu ei waith ei hun, sy’n rhwydweithiwr a chyfathrebwr cryf, ac sy’n gallu gweithio gyda chydweithwyr mewnol ac allanol i ddatblygu perthnasoedd yn effeithiol a dod i ddeall eu hanghenion. Yn ddelfrydol, bydd gennych rywfaint o wybodaeth am fyd ymchwil Cymru a’r DU a rhywfaint o wybodaeth am waith Senedd Cymru.
Ai chi yw hwn? Os felly, cysylltwch â ni.
Byddwch yn gweithio yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd fel arfer ond, yn unol â’r Rheoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, byddwch yn gweithio gartref yn gychwynnol. Byddwch yn cael y gefnogaeth a’r offer angenrheidiol ar gyfer gweithio gartref.