Location: Caerphilly
Salary: £61,937 – £71,725 per annum plus benefits
Hours: Full time
Contract type: Permanent
Placed on: 27/01/2021
Closes: 12 noon 15/02/2021
Job ref: HE0168/688
Would you like to make a significant contribution to developing higher education policy in Wales? We are seeking the right individual to become our Director of Policy and Funding, playing a key role in leading the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW)’s policy and funding programmes as part of our senior management team.
HEFCW regulates and funds higher education in Wales, and we apply our influence and expertise to help deliver Welsh Government priorities for higher education for wider societal and economic benefits.
With significant experience of leading people and managing complexity and ambiguity, the Director of Policy and Funding will contribute to the overall strategic direction and management of HEFCW and will lead four teams: Student Experience; Widening Access and Inclusion; Skills and Employability; and Research, Innovation and Engagement.
We are looking for someone who can demonstrate significant experience of working at senior level, taking the lead role in strategic development and execution of policies and practices, with appropriate attention to detail and creativity to increase HEFCW’s impact as a funder and influencer. You will have excellent knowledge of the Welsh and wider UK higher education sector and of the public sector environment around higher education policy. You will need personal credibility and effectiveness, being able to represent the organisation at high levels with HE institutions, the Welsh and UK Governments, the other UK HE funding bodies and other external organisations.
You will need well-developed negotiating and influencing skills and, due to HEFCW’s small and specialist nature, you will be extremely adaptable in your approach and able to work with people at different levels, both internally and with external stakeholders.
Employee benefits include access to the Civil Service Pension Scheme, flexible working and 30 days annual leave (excluding bank holidays).
HEFCW warmly welcomes applications from all sections of the community and is pleased to accept application forms in Welsh and English. Appointments will be made on merit.
Interviews will be held on 12 March 2021.
For further information contact hrdepartment@hefcw.ac.uk, or to download an application pack visit our website.
Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid
Hoffech chi wneud cyfraniad o bwys at ddatblygu polisi addysg uwch yng Nghymru? Rydym yn chwilio am yr unigolyn cywir i fod yn Gyfarwyddwr Polisi a Chyllid, gan chwarae rhan allweddol wrth arwain rhaglenni polisi a chyllido Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) fel aelod o’n huwch dîm rheoli.
Mae CCAUC yn rheoleiddio ac yn cyllido addysg uwch yng Nghymru, ac rydym yn defnyddio ein dylanwad a’n harbenigedd er mwyn cynorthwyo i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch, er budd cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Gyda phrofiad sylweddol o arwain pobl a rheoli sefyllfaoedd cymhleth ac amwys, bydd y Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid yn cyfrannu at reolaeth a chyfeiriad strategol cyffredinol CCAUC, ac yn arwain pedwar tîm: Profiad Myfyrwyr; Ehangu Mynediad a Chynhwysiant; Sgiliau a Chyflogadwyedd; ac Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu.
Rydym yn chwilio am rywun a all arddangos profiad sylweddol o weithio ar lefel uwch, gan ysgwyddo’r rôl arweiniol o ran datblygiad strategol a gweithrediad polisïau ac arferion, gyda sylw priodol i fanylder a chreadigrwydd i gynyddu effaith CCAUC fel corff sy’n cyllido ac yn dylanwadu. Bydd gennych wybodaeth heb ei hail am sector addysg uwch Cymru a’r DU ar raddfa ehangach, ac am amgylchedd y sector cyhoeddus yn gysylltiedig â pholisi addysg uwch. Bydd angen effeithiolrwydd a hygrededd personol arnoch, a byddwch yn gallu cynrychioli’r sefydliad ar lefelau uchel o flaen sefydliadau AU, Llywodraeth Cymru a’r DU, cyrff cyllido AU eraill y DU a sefydliadau allanol eraill.
Byddwch wedi meithrin sgiliau negodi a dylanwadu da ac, oherwydd natur gartrefol ac arbenigol CCAUC, bydd gennych ymagwedd eithriadol o hyblyg gan allu gweithio gyda phobl ar wahanol lefelau, yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol.
Mae buddion y cyflogai yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau gwaith hyblyg a 30 diwrnod o wyliau blynyddol (heb gynnwys gwyliau banc).
Mae CCAUC yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned ac yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg. Penodir i’r swydd a’r sail teilyngdod.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12 Mawrth 2021.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â hrdepartment@hefcw.ac.uk, neu i lawrlwytho pecyn ymgeisio ewch i’n gwefan.