Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education to all sections of the community with research excellence, transforming lives through education since 1969.
The role
As the Senior Manager, Planning & Resources (Wales) you will be a key member of The Open University in Wales’ (OUiW) senior team and play a critical role coordinating the creation and delivery of strategies, actions plans, reporting cycles and business cases. You will make sure that we are able to bring together the data and intelligence we need to support our planning and decision making and will maintain awareness of the external policy and funding context within which we operate as we work together to ensure that a growing number of learners in Wales recognise and enjoy the benefits of part-time distance learning with the Open University.
Working directly with the Director of the OU in Wales, you will collaborate closely with academic and professional colleagues in Wales and the wider University to deliver our strategies and plans. You’ll ensure that systems are in place to secure and make the very most of all resources available to us – people, money, accommodation, facilities, information and data – and that we work appropriately to meet all relevant statutory, regulatory and University requirements.
Skills and experience
- Are you a strategic and innovative thinker, able to work with diverse teams across a large and growing university?
- Do you have a track record of successful collaboration with senior managers and building strong relationships at all levels?
- Do you enjoy using your skills in numerical and data analysis to research and collate data, information and intelligence and identify impacts and trends at system and organisational level?
- Do you understand risk mitigation and are you able to support others to understand and plan for resilience in their work and that of their teams?
- Do you have a strong commitment to our vision of being open to people, places, methods and ideas?
What you get in return
You’ll join a strong, vibrant and supportive team engaged in purposeful work that makes a real difference to people’s lives in Wales. We offer a creative and positive working environment with a strong commitment to training and development.
We also offer a great range of benefits that support our employees and their families for the long term. Benefits include an attractive pension scheme and 33 days holiday per annum, plus Bank Holidays and Christmas closure days.
How to apply
Send a completed application form, a CV and a cover letter, to wales-recruitment@open.ac.uk. The job reference number will need to be included in your email title and your application form should clearly address how you meet the essential and desirable criteria listed in the job description.
The application form and job-related information are available from the links located on the OU jobs webpage.
Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator on 02920 26 27 16 or by emailing wales-recruitment@open.ac.uk, quoting the appropriate job reference number.
Please note: If you have not heard from us within two weeks of the application closing date, please assume that on this occasion you have not been selected for an interview. However, we thank you for your interest in The Open University and encourage you to apply for future positions.
**As we practice social distancing at this time, please note that we will be conducting the interviews for this position via Skype. Further information and guidance on participating in Skype interviews is available to shortlisted candidates by request.
We promote diversity in employment and welcome applications from all sections of the community.
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae’n arweinydd byd ym maes addysg ran-amser hyblyg. Mae’n cyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch i bob rhan o’r gymuned â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg ers 1969.
Y rôl
Fel yr Uwch-reolwr Cynllunio ac Adnoddau (Cymru), byddwch yn aelod allweddol o uwch-dîm Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac yn chwarae rôl hanfodol wrth gydlynu’r gwaith o greu a chyflawni strategaethau, cynlluniau gweithredu, cylchoedd adrodd ac achosion busnes. Byddwch yn sicrhau y gallwn ddwyn ynghyd y data a’r deallusrwydd sydd eu hangen arnom i gefnogi’n gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau, ac yn cynnal ymwybyddiaeth o’r cyd-destun polisi ac ariannu allanol rydym yn gweithredu oddi mewn iddo wrth i ni gydweithio i sicrhau bod nifer cynyddol o ddysgwyr yng Nghymru yn cydnabod ac yn mwynhau buddiannau dysgu o bell rhan-amser gyda’r Brifysgol Agored.
Gan weithio’n uniongyrchol gyda Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, byddwch yn cydweithio’n agos â chydweithwyr academaidd a phroffesiynol yng Nghymru ac yn Y Brifysgol ehangach i gyflawni ein strategaethau a chynlluniau. Byddwch yn sicrhau bod systemau ar waith i ddiogelu’r holl adnoddau sydd ar gael i ni, a manteisio i’r eithaf arnynt – pobl, arian, llety, cyfleusterau, gwybodaeth a data – ac yn sicrhau ein bod yn gweithio’n briodol i fodloni’r holl ofynion statudol a rheoliadol perthnasol a holl ofynion y Brifysgol.
Sgiliau a phrofiad
- Ydych chi’n rhywun sy’n meddwl yn strategol ac yn arloesol, yn gallu gweithio gyda thimau amrywiol ar hyd a lled prifysgol fawr sy’n tyfu?
- Oes gennych chi hanes o gydweithio’n llwyddiannus ag uwch-reolwyr a meithrin cydberthnasau cryf ar bob lefel?
- Ydych chi’n mwynhau defnyddio eich sgiliau dadansoddi rhifyddol a dadansoddi data i ymchwilio i ddata, gwybodaeth a deallusrwydd a’u coladu, a nodi effeithiau a thueddiadau ar lefel system a sefydliadol?
- Ydych chi’n deall y broses o liniaru risg ac yn meddu ar y gallu i gefnogi eraill i ddeall a chynllunio ar gyfer gwydnwch yn eu gwaith eu hunain a gwaith eu timau?
- Oes gennych chi ymrwymiad cryf i’n gweledigaeth o fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau?
Yr hyn a gewch yn ôl
Byddwch yn ymuno â thîm cryf, bywiog a chefnogol sy’n ymgymryd â gwaith pwrpasol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn cynnig amgylchedd gweithio creadigol a chadarnhaol gydag ymrwymiad cryf i hyfforddi a datblygu.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o fuddiannau sy’n cefnogi ein cyflogeion a’u teuluoedd yn yr hirdymor. Mae’r buddiannau yn cynnwys cynllun pensiwn deniadol, 33 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â Gwyliau’r Banc a chyfnod y Nadolig.
Sut i wneud cais
Anfonwch ffurflen gais wedi’i chwblhau, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol megis CV neu lythyr eglurhaol, i wales-recruitment@open.ac.uk. Bydd angen i chi gynnwys rhif cyfeirnod y swydd yn nheitl eich e-bost, a dylai eich ffurflen gais nodi’n glir sut rydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol a dymunol sydd wedi’u cynnwys yn y disgrifiad swydd.
Mae’r ffurflen gais a gwybodaeth am y swydd ar gael o’r dolenni sydd i’w gweld ar dudalen we swyddi’r Brifysgol Agored.
Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael gan y Cydgysylltydd Recriwtio ar 02920 26 27 16 neu drwy e-bostio wales-recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod perthnasol.
Noder: Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn pythefnos i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb yn Y Brifysgol Agored ac yn eich annog i wneud cais am swyddi yn y dyfodol.
**Wrth i ni gadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd, nodwch y byddwn yn cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd hon drwy Skype. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gymryd rhan mewn cyfweliadau drwy Skype ar gael ar gais i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer.
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cyflogaeth ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.
Please visit our website for further information and to apply online.