Hours: Full time
Contract type: Fixed-term maternity cover, suitable for secondment
Placed on: 10 February 2022
Job ref: HE0202/698
Could you help us to develop policies to widen access to higher education in Wales?
We are looking for a Widening Access and Inclusion Manager to work with us to support the Welsh higher education sector to widen access and promote equality of opportunity in higher education.
Working with the Head of Widening Access and Inclusion, you will be responsible for the day-to-day management of widening access and the Reaching Wider Programme, acting as first point of contact for the three regional Partnerships. You will also be involved in other areas of the Widening Access and Inclusion team’s work, which includes developing policy related to equality and diversity, contributing to the delivery of HEFCW’s inclusion priorities including as they relate to the Equality Act, 2015 and to the Well-being of Future Generations Act.
To be successful in this role, you will need experience of developing policy and interpreting legislation and research evidence, informed by your knowledge of widening access, social inclusion and social mobility priorities and typical interventions, ideally in a higher education context. The policies developed will make a difference to students but your points of contact will be universities and colleges, Welsh Government and other key stakeholders, including Reaching Wider Partnerships, not students directly.
Key activities in the role are developing policy, analysing, interpreting and monitoring information, data and evidence submitted to us, preparing reports, briefings and information to shape our policy developments, as well as liaising with external partners and stakeholders. To deliver this brief, you will need widening access policy knowledge, effective oral and written communication skills, and the ability to analyse, interpret and present complex information confidently and clearly. You will be able to work on your own initiative, and as part of a team, to prioritise work and deliver it effectively often within short time limits.
The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.
For more information and a full job description, please click Apply
HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW.
We will be holding a virtual Ask Anything recruitment event open to all applicants, particularly welcoming people from under-represented backgrounds to take part. Full details of the event are on our website.
We are pleased to accept application forms in Welsh and English.
————————————————————————————————————————————————————————————————————————-
Rheolwr Ehangu Mynediad a Chynhwysiant
Allwch chi ein helpu i ddatblygu polisïau i ehangu mynediad i addysg uwch yng Nghymru?
Rydym yn chwilio am Reolwr Ehangu Mynediad a Chynhwysiant i weithio gyda ni i helpu sector addysg uwch Cymru i ehangu mynediad a hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg uwch.
Gan weithio gyda’r Pennaeth Ehangu Mynediad a Chynhwysiant, byddwch yn gyfrifol am reoli ehangu mynediad a’r Rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach, gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y tair Partneriaeth ranbarthol. Byddwch hefyd yn ymwneud â meysydd eraill yng ngwaith y tîm Ehangu Mynediad a Chynhwysiant, sy’n cynnwys datblygu polisi yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cynhwysiant CCAUC fel y bônt yn berthnasol i Ddeddf Cydraddoldeb 2015, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen ichi gael profiad o ddatblygu polisi a dehongli deddfwriaeth a thystiolaeth ymchwil. Yn sail ar gyfer hynny bydd gennych wybodaeth am flaenoriaethau ac ymyraethau nodweddiadol ym maes ehangu mynediad, cynhwysiant cymdeithasol a symudedd cymdeithasol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun addysg uwch. Bydd y polisïau a ddatblygir yn gwneud gwahaniaeth i fyfyrwyr ond eich pwyntiau cyswllt fydd prifysgolion a cholegau, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill allweddol, gan gynnwys Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach, yn hytrach na myfyrwyr yn uniongyrchol.
Mae prif weithgareddau’r rôl yn cynnwys datblygu polisi, dadansoddi, dehongli a monitro gwybodaeth, data a thystiolaeth a gyflwynir inni, llunio adroddiadau, papurau briffio a gwybodaeth i lywio ein datblygiadau o ran polisi, yn ogystal â chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol. I gyflawni’r briff hwn, bydd angen ichi feddu ar wybodaeth am bolisi ehangu mynediad, sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a’r gallu i ddadansoddi, dehongli a chyflwyno gwybodaeth gymhleth yn hyderus a chlir. Byddwch yn gallu gweithio ar eich cymhelliant eich hun, ac fel aelod o dîm i drefnu gwaith yn ôl blaenoriaeth a’i gyflawni’n effeithiol, yn aml o fewn terfynau amser byr.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg, yn ddymunol.
Am ragor o wybodaeth a disgrifiad llawn o’r swydd, cliciwch ar Ymgeisio
Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd.
Byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio rhithiol Gofynnwch Unrhyw Beth sydd ar agor i bob ymgeisydd, gan groesawu pobl o gefndiroedd tangynrychioledig yn arbennig i gymryd rhan. Ceir manylion llawn y digwyddiad ar ein gwefan.
Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.