Student Experience Manager

Expires

23rd February 2022

Hours: Full time, but could be 0.8 FTE for the right candidate

Contract type: Permanent, suitable for secondment

Placed on: 10/02/2022

Job ref: HE0198/699

 

Could you make a positive difference to the experience of higher education students in Wales?

Do you have experience in policy development/delivery?

If so, this could be the role for you!

We are looking for a member of our Student Experience team to help us develop policy relating to aspects of the student experience, and help us undertake our regulatory role in relation to the quality of higher education at providers in Wales. Areas of work covered by the team include academic standards, learning and teaching, and student information.

We are looking for an individual with great communication skills who can work in partnership with others and act with integrity, to help us deliver the objectives of our Corporate Strategy, respond to Welsh Government policy steers, and ensure that students have a high-quality academic experience. The role is wide-ranging and will allow you to demonstrate your analytical and problem-solving skills, as well as your understanding of issues which impact on the student academic experience.

Experience of the development and delivery of policy and processes is essential.  This would preferably be in quality assurance and/or student experience, and ideally from within a higher education or public sector environment.

You will lead the development, implementation and review of policy in areas such as the national student survey, student partnership and implementation of HEFCW’s responsibilities regarding quality assessment.   You will also support key committees, including writing papers, undertaking projects and taking minutes, and support our review of teaching funding.

You will maintain effective working relationships with external partners and stakeholders. The role will focus on the student interest but will not involve direct contact with individual students.

The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information and a full job description, please click Apply

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW.

We will be holding a virtual Ask Anything recruitment event open to all applicants, particularly welcoming people from under-represented backgrounds to take part.  Full details of the event are on our website.

We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

——————————————————————————————————————————————————————————————————————————

Rheolwr Profiad Myfyrwyr

Allech chi newid profiadau myfyrwyr addysg uwch er gwell yng Nghymru?

Oes gennych chi brofiad ym maes datblygu/cyflawni polisi?

Os felly, gallai’r rôl hon fod ar eich cyfer chi!

Rydym yn chwilio am aelod o’n tîm Profiad Myfyrwyr i’n helpu i ddatblygu polisi sy’n ymwneud ag agweddau ar brofiad myfyrwyr, a’n helpu i gyflawni ein rôl fel corff rheoleiddio ansawdd addysg uwch mewn darparwyr yng Nghymru. Mae’r meysydd gwaith a drafodir gan y tîm yn cynnwys safonau academaidd, dysgu ac addysgu a gwybodaeth myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau cyfathrebu gwych a all weithio mewn partneriaeth ag eraill a gweithredu gyda hygrededd, i’n helpu i gyflawni amcanion ein Strategaeth Gorfforaethol, ymateb i arweiniadau Llywodraeth Cymru ynghylch polisi, a sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau academaidd o ansawdd uchel. Mae’r rôl yn eang, a bydd yn gyfle ichi arddangos eich sgiliau dadansoddi a datrys problemau, yn ogystal â’ch dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar brofiad academaidd myfyrwyr.

Mae profiad o ddatblygu a chyflawni polisi a phrosesau yn hanfodol.  Byddai’n well pe bai’r cefndir hwn ym maes sicrhau ansawdd ac/neu brofiad myfyrwyr, ac yn ddelfrydol mewn awyrgylch addysg uwch neu sector cyhoeddus.

Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisi mewn meysydd fel yr arolwg cenedlaethol o fyfyrwyr, partneriaeth myfyrwyr a chyflawni cyfrifoldebau CCAUC o ran asesu ansawdd.   Byddwch hefyd yn cefnogi pwyllgorau allweddol, gan gynnwys ysgrifennu papurau, cyflawni prosiectau a chymryd cofnodion, a chefnogi ein hadolygiad o gyllid addysgu.

Byddwch yn cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol. Ffocws y rôl fydd buddiannau myfyrwyr, ond ni fydd yn golygu dod i gysylltiad uniongyrchol â myfyrwyr unigol.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ddymunol.

Am ragor o wybodaeth a disgrifiad llawn o’r swydd, cliciwch ar Ymgeisio

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd.

Byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio rhithiol Gofynnwch Unrhyw Beth sydd ar agor i bob ymgeisydd, gan groesawu pobl o gefndiroedd tangynrychioledig yn arbennig i gymryd rhan. Ceir manylion llawn y digwyddiad ar ein gwefan.

Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.