Research Manager / Rheolwr Ymchwil

Expires

6th July 2023

Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) / Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Location: Caerphilly (currently with hybrid working from home arrangements)

Salary: £34,494 – £40,428

Hours: Full time (minimum 0.6FTE considered for the right candidate)

Contract type: Permanent Placed on: 22 June 2023

Closes: 6 July 2023

Job ref: HE0209/708

HEFCW is Wales’s largest funder of university research, currently providing over £100 million a year to support research and innovation activities of universities across Wales. Our Research, Innovation and Engagement Team is responsible for setting the direction of, and implementing the policies and funding streams underpinning this investment. HEFCW is recruiting a Research Manager to support and manage its research policy agenda within this team.

You will lead the management of HEFCW’s projects and programmes relating to capital investments. This will require you to be the lead policy reviewer on these grants, working in partnership with other UK funding bodies, and with Welsh higher education institutions when monitoring the projects. This will require you to be an excellent team player, able to develop and maintain good working relationships with HEFCW and broader colleagues in other UK funding bodies.

You will support the Senior Research Manager in developing project guidance, assessment and monitoring in emerging areas including research culture and environment across the Welsh research sector.

Having a degree-level qualification or equivalent, you will have experience of developing, interpreting and applying policy ideally in the research or public sector. You will have knowledge or experience of research and postgraduate researchers experience as a policy area, ideally within the higher education or research and innovation sector, including an understanding of public sector policy and priorities. The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information please click Apply.

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

We encourage candidates to contact the line manager, Hayley Moulding (hayley.moulding@hefcw.ac.uk), or our HR department (hrdepartment@hefcw.ac.uk) in complete confidence with any queries about the vacancy or application process.

Rheolwr Ymchwil

CCAUC yw’r corff yng Nghymru sy’n darparu’r mwyaf o gyllid ar gyfer ymchwil ym mhrifysgolion, a ninnau’n darparu dros £100 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac arloesi prifysgolion ledled Cymru. Ein Tîm Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu sy’n gyfrifol am bennu’r cyfeiriad a gweithredu’r polisïau a ffrydiau cyllido sy’n tanategu’r buddsoddiad hwn. Mae CCAUC yn recriwtio Rheolwr Ymchwil i gefnogi a rheoli ei agenda bolisi ymchwil o fewn y tîm yma.

Byddwch yn arwain gwaith i reoli prosiectau a rhaglenni CCAUC mewn perthynas â buddsoddiadau cyfalaf. Bydd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i chi fod yr adolygydd polisi arweiniol ar y grantiau hyn, gan weithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyllido eraill y DU, a chyda sefydliadau addysg uwch Cymru wrth fonitro’r prosiectau. Bydd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i chi fod yn rhywun sy’n gweithio’n ardderchog fel rhan o dîm, gan allu datblygu a chynnal perthnasoedd gweithio da â chydweithwyr yn CCAUC a chydweithwyr ehangach yng nghyrff cyllido eraill y DU.

Byddwch yn cynorthwyo’r Uwch Reolwr Ymchwil i ddatblygu canllawiau a threfniadau asesu a monitro ar gyfer prosiectau mewn meysydd sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys diwylliant ac amgylchedd ymchwil ar draws sector ymchwil Cymru.

A chithau’n meddu ar gymhwyster ar lefel gradd neu gymhwyster cyfwerth, bydd gennych brofiad o ddatblygu, dehongli a chymhwyso polisi, yn ddelfrydol yn y sector ymchwil neu gyhoeddus. Bydd gennych wybodaeth neu brofiad o ymchwil a phrofiad ymchwilwyr ôl-radd fel maes polisi, yn ddelfrydol o fewn y sector addysg uwch neu ymchwil ac arloesi, gan gynnwys dealltwriaeth am bolisi a blaenoriaethau’r sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddymunol.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar Ymgeisio

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn annog ymgeiswyr i gysylltu â’r rheolwr llinell, Hayley Moulding (hayley.moulding@hefcw.ac.uk), neu’r adran adnoddau dynol (hrdepartment@hefcw.ac.uk) yn gwbl gyfrinachol, gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r swydd wag neu’r broses ymgeisio.

 

Application URL:

https://www.hefcw.ac.uk/en/about-us/working-for-hefcw/vacancies/