Widening Access and Transitions Manager / Rheolwr Ehangu Mynediad a Phontio

Expires

21st March 2024

Could you help us to develop policies which enable more people to benefit from post-16 education and training in Wales? Are you interested in ensuring that post-16 education and training, including further and higher education, opportunities are widely accessible to people from a diverse range of backgrounds?

We are looking for a Widening Access and Transitions Manager to work with us to regulate and support the post-16 education sector in Wales to widen access to and through further and higher education, training and lifelong learning. Widening access regulation and policy supports people under-represented in post-16 education to enter and succeed in their studies and beyond, regardless of their background. Our policies cover staff and students in post-16 education and training and research. You will also be involved in work on regulation and policies related to equality of opportunity, admissions, student welfare, retention, lifelong learning, and the relationship between higher and further education and training, while policy areas covered by the team also include supporting equality and diversity, well-being and health, and ensuring equality is at the heart of all we do as an organisation.

We are looking for an individual with strong analytical and problem solving skills, who can communicate effectively in a variety of ways appropriate to the audience. The role involves working collaboratively as part of our Widening Access and Inclusion Team as well as making links across the organisation, and with external partners, where there are connections to our work including in the areas of the student experience, student engagement, employability and civic mission, research, part-time education and lifelong learning.

Experience of policy development and delivery in a post-16 context, is essential, ideally within a further or higher education environment. The purpose of the policy role will enable our organisation to regulate and support post-16 education and training providers to improve the study, work employability and lives of students and staff in post-16 education, this post does not work directly with learners or students. It is not an operational role delivering learning activities.

You will lead the development, implementation and review of policy in areas relating to widening access and student transitions to and through post-16 education and training, and will manage relationships with some of our key partners. You will monitor and review reports and plans submitted to us, support committees and produce papers and briefings. You will be organised, able to prioritise a diverse portfolio of work and progress it reliably, sometimes against the pressures of time. The ability to communicate bilingually in Welsh and English is desirable.

For more information please click Apply

HEFCW is a Disability Confident and Living Wage accredited employer. We are committed to promoting a diverse and inclusive workplace and we particularly encourage LGBTQ+ applicants, disabled applicants and people from an ethnic minority background, who are currently under-represented at HEFCW. We are pleased to accept application forms in Welsh and English.

Allech chi ein helpu i ddatblygu polisïau sy’n galluogi mwy o bobl i gael budd o addysg ôl-16 a hyfforddiant yng Nghymru? Oes gennych chi ddiddordeb mewn sicrhau bod cyfleoedd addysg ôl-16 a hyfforddiant, gan gynnwys addysg bellach ac uwch, yn hygyrch ar raddfa eang i bobl o ystod amrywiol o gefndiroedd?

Rydym yn chwilio am Reolwr Ehangu Mynediad a Phontio i weithio gyda ni i reoleiddio a chynorthwyo’r sector addysg ôl-16 yng Nghymru i ehangu mynediad at, a thrwy addysg bellach ac uwch, hyfforddiant a dysgu gydol oes. Mae trefn reoleiddio a pholisi ehangu mynediad yn cynorthwyo pobl heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg ôl-16 i ymgymryd ag astudiaethau a llwyddo yn eu hastudiaethau a’r tu hwnt, ni waeth beth fo’u cefndir. Mae ein polisïau’n cwmpasu staff a myfyrwyr mewn addysg ôl-16 a hyfforddiant ac ymchwil. Byddwch hefyd yn rhan o waith ar reoleiddio a pholisïau sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, derbyniadau, lles myfyrwyr, cadw myfyrwyr, dysgu gydol oes a’r berthynas rhwng addysg uwch a phellach a hyfforddiant, tra bo meysydd polisi a gwmpesir gan y tîm hefyd yn cynnwys cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, llesiant ac iechyd, a sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn fel sefydliad.

Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n briodol i’r gynulleidfa. Mae’r rôl yn golygu cydweithio fel rhan o’n Tîm Ehangu Mynediad a Chynhwysiant yn ogystal â chreu cysylltiadau ar draws y sefydliad, a chyda phartneriaid allanol, lle ceir cysylltiadau â’n gwaith gan gynnwys ym meysydd profiad myfyrwyr, ymgysylltiad myfyrwyr, cyflogadwyedd a chenhadaeth ddinesig, ymchwil, addysg ran-amser a dysgu gydol oes.

Mae profiad o ddatblygu a chyflawni polisi mewn cyd-destun ôl-16 yn hanfodol, yn ddelfrydol mewn amgylchedd addysg bellach neu uwch. Bydd diben y rôl polisi’n galluogi ein sefydliad i reoleiddio a chynorthwyo darparwyr addysg ôl-16 a hyfforddiant i wella astudiaethau myfyrwyr, eu cyflogadwyedd ar gyfer gwaith a’u bywydau hwy a staff mewn addysg ôl-16; nid yw’r swydd hon yn gweithio’n uniongyrchol gyda dysgwyr na myfyrwyr. Nid rôl weithredol yn cyflawni gweithgareddau dysgu mohoni.

Byddwch yn arwain gwaith i ddatblygu, gweithredu ac adolygu polisi mewn meysydd sy’n ymwneud ag ehangu mynediad a phrosesau pontio myfyrwyr i, a thrwy addysg ôl-16 a hyfforddiant, a byddwch yn rheoli perthnasoedd â rhai o’n partneriaid allweddol. Byddwch yn monitro ac yn adolygu adroddiadau a chynlluniau a gyflwynir i ni, yn cefnogi pwyllgorau ac yn cynhyrchu papurau a dogfennau briffio. Byddwch yn drefnus, yn gallu blaenoriaethu portffolio gwaith amrywiol a bwrw ymlaen ag ef yn ddibynadwy, weithiau yn erbyn pwysau amser. Mae’r gallu i gyfathrebu’n ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ddymunol.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar Ymgeisio

Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd. Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.